P-05-993 Gwnewch y sector manwerthu’n gwbl hygyrch i bobl anabl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Angharad Paget-Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 173 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Yn ystod pandemig Covid-19, mae llawer o siopau hanfodol wedi defnyddio dulliau diogelwch sydd wedi eithrio llawer o bobl anabl. Ni chafodd pobl â nam ar y golwg eu cynnwys yn y slotiau siopa blaenoriaeth cyn diwedd mis Mai. Mae’r holl arwyddion a marciau llawr yn bur weledol, sy’n dda i ddim os oes gennych olwg gwan neu ddim golwg. Nid yw systemau un ffordd mewn siopau’n ddigon llydan i ddefnyddwyr cadair olwyn ac mae cilfachau i’r anabl yn cael eu defnyddio fel lle i bobl giwio.
Gwybodaeth Ychwanegol
Wrth i’r cyfyngiadau symud gael eu llacio, mae
pobl anabl yn wynebu mwy o heriau. Mae bysiau a threnau wedi selio
cilfachau i’r anabl, ni all pobl fyddar ddarllen gwefusau
gyda phobl yn gwisgo mygydau wyneb ac, wrth agor bariau, caffis a
bwytai, bydd mwy o seddi awyr agored yn bosibl. Mae hyn yn peri mwy
o risg i bobl anabl gan fod seddi awyr agored, y rhan fwyaf
o’r amser, yn cymryd dros le cyhoeddus ac yn achosi perygl a
rhwystr.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Aberafan
· Gorllewin De Cymru